1 Mae pawb sy'n credu mai Iesu ydy'r Meseia wedi cael eu geni'n blant i Dduw, ac mae pawb sy'n caru'r Tad yn caru ei blentyn hefyd.
2 Dŷn ni'n gwybod ein bod yn caru plant Duw os ydyn ni'n caru Duw ac yn gwneud beth mae'n ei ddweud.
3 Mae caru Duw yn golygu bod yn ufudd iddo, a dydy hynny ddim yn anodd,
4 am fod plant Duw yn ennill y frwydr yn erbyn y byd. Credu sy'n rhoi'r fuddugoliaeth yna i ni!