15 Ac os ydyn ni'n gwybod ei fod e'n gwrando arnon ni, dŷn ni'n gallu bod yn siŵr y byddwn yn derbyn beth bynnag byddwn ni'n gofyn amdano.
16 Os gwelwch chi Gristion arall yn gwneud rhywbeth sy'n amlwg yn bechod ond sydd ddim yn bechod marwol, dylech chi weddïo drostyn nhw, a bydd Duw yn rhoi bywyd iddyn nhw. Sôn ydw i am y rhai hynny sy'n pechu, ond dydy eu pechod nhw ddim yn bechod marwol. Mae'r fath beth yn bod a phechod marwol. Dw i ddim yn dweud wrthoch chi am weddïo ynglŷn â hwnnw.
17 Mae gwneud unrhyw beth o'i le yn bechod, ond dydy pob pechod ddim yn bechod marwol.
18 Dŷn ni'n gwybod bod y rhai sydd wedi eu geni'n blant i Dduw ddim yn dal ati i bechu. Mae Mab Duw yn eu cadw nhw'n saff, a dydy'r Un drwg ddim yn gallu gwneud niwed iddyn nhw.
19 Dŷn ni'n gwybod ein bod ni'n blant i Dduw, ond mae'r byd o'n cwmpas ni yn cael ei reoli gan yr un drwg.
20 Ond dŷn ni hefyd yn gwybod fod Mab Duw wedi dod, ac mae wedi'n galluogi ni i ddeall a dod i nabod yr un gwir Dduw. A dŷn ni wedi'n huno â'r gwir Dduw am ein bod ni wedi'n huno â'i Fab e, Iesu Grist. Fe ydy'r unig wir Dduw, a fe ydy'r bywyd tragwyddol.
21 Blant annwyl, cadwch draw oddi wrth unrhyw beth sy'n cymryd lle Duw yn eich bywydau chi.