2 Dŷn ni'n gwybod ein bod yn caru plant Duw os ydyn ni'n caru Duw ac yn gwneud beth mae'n ei ddweud.
3 Mae caru Duw yn golygu bod yn ufudd iddo, a dydy hynny ddim yn anodd,
4 am fod plant Duw yn ennill y frwydr yn erbyn y byd. Credu sy'n rhoi'r fuddugoliaeth yna i ni!
5 Pwy sy'n llwyddo i ennill y frwydr yn erbyn y byd? Dim ond y rhai sy'n credu mai Iesu ydy Mab Duw.
6 Iesu Grist – daeth yn amlwg pwy oedd pan gafodd ei fedyddio â dŵr, a phan gollodd ei waed ar y groes. Nid dim ond y dŵr, ond y dŵr a'r gwaed. Ac mae'r Ysbryd hefyd yn tystio i ni fod hyn yn wir, am mai'r Ysbryd ydy'r gwirionedd.
7 Felly dyna dri sy'n rhoi tystiolaeth:
8 yr Ysbryd, dŵr y bedydd a'r gwaed ar y groes; ac mae'r tri yn cytuno â'i gilydd.