7 Felly dyna dri sy'n rhoi tystiolaeth:
8 yr Ysbryd, dŵr y bedydd a'r gwaed ar y groes; ac mae'r tri yn cytuno â'i gilydd.
9 Dŷn ni'n derbyn tystiolaeth pobl, ond mae tystiolaeth Duw cymaint gwell! Dyma'r dystiolaeth mae Duw wedi ei roi am ei Fab!
10 Mae pawb sy'n credu ym Mab Duw yn gwybod fod y dystiolaeth yn wir. Ond mae'r rhai sy'n gwrthod credu Duw yn gwneud Duw ei hun yn gelwyddog, am eu bod wedi gwrthod credu beth mae Duw wedi ei dystio am ei Fab.
11 A dyma'r dystiolaeth: mae Duw wedi rhoi bywyd tragwyddol i ni, ac mae'r bywyd hwn i'w gael yn ei Fab.
12 Felly os ydy'r Mab gan rywun, mae'r bywyd ganddo; ond does dim bywyd gan y rhai dydy'r Mab ddim ganddyn nhw.
13 Dw i wedi ysgrifennu hyn i gyd atoch chi sy'n credu ym Mab Duw er mwyn i chi wybod fod gynnoch chi fywyd tragwyddol.