10 Os ydy rhywun yn dod atoch sydd ddim yn dysgu'r gwir, peidiwch eu gwahodd nhw i mewn i'ch tŷ. Peidiwch hyd yn oed eu cyfarch nhw.
11 Mae unrhyw un sy'n rhoi croeso iddyn nhw yn eu helpu nhw i wneud drwg.
12 Mae gen i lawer mwy i'w ddweud wrthoch chi, ond dw i ddim am ei roi ar bapur. Dw i'n gobeithio dod i'ch gweld chi, a siarad wyneb yn wyneb. Byddai hynny'n ein gwneud ni'n hapus go iawn!
13 Mae plant eich chwaer eglwys yma – hithau wedi ei dewis gan Dduw – yn anfon eu cyfarchion.