4 Roeddwn i wrth fy modd o glywed fod rhai ohonoch chi yn byw felly – yn ffyddlon i'r gwir, fel mae'r Tad wedi gorchymyn i ni.
5 Nawr, dw i ddim yn rhoi rhyw orchymyn newydd i chi fel eglwys. Dw i'n apelio atoch chi i gofio'r egwyddor sylfaenol sydd wedi bod gyda ni o'r dechrau, sef ein bod i garu'n gilydd.
6 Ystyr cariad ydy ein bod ni'n byw fel mae Duw'n dweud wrthon ni. Dyna glywoch chi o'r dechrau cyntaf. Dyna sut dŷn ni i fod i fyw.
7 Mae llawer o rai sy'n twyllo wedi'n gadael ni a mynd allan i'r byd. Pobl ydyn nhw sy'n gwrthod credu fod gan Iesu Grist gorff dynol a'i fod yn ddyn go iawn. Twyllwyr ydyn nhw! Gelynion y Meseia!
8 Gwyliwch, rhag i chi gael eich dylanwadu ganddyn nhw, a cholli'r wobr dych chi wedi gweithio mor galed amdani! Daliwch ati, er mwyn gwneud yn siŵr y byddwch yn cael eich gwobr yn llawn.
9 Mae'r rhai sy'n mynd y tu hwnt i beth wnaeth Iesu Grist ei ddysgu wedi torri pob cysylltiad â Duw. Ond mae gan y rhai sy'n glynu wrth ddysgeidiaeth y Meseia berthynas gyda'r Tad a'r Mab.
10 Os ydy rhywun yn dod atoch sydd ddim yn dysgu'r gwir, peidiwch eu gwahodd nhw i mewn i'ch tŷ. Peidiwch hyd yn oed eu cyfarch nhw.