16 Dim dilyn rhyw straeon dychmygol clyfar oedden ni pan ddwedon ni wrthoch chi fod yr Arglwydd Iesu Grist yn mynd i ddod yn ôl eto gyda grym. Dim o gwbl! Roedden ni'n llygad-dystion i'w fawrhydi!
17 Gwelon ni e'n cael ei anrhydeddu a'i ganmol gan Dduw y Tad. Daeth llais oddi wrth y Gogoniant Mawr yn dweud, “Fy mab annwyl i ydy hwn; mae e wedi fy mhlesio i'n llwyr”.
18 Clywon ni'r llais hwn yn dod o'r nefoedd pan oedden ni gydag e ar ben y mynydd sanctaidd.
19 A dŷn ni'n rhoi pwys mawr ar neges y proffwydi hefyd. Byddai'n beth da i chithau dalu sylw i'r neges honno. Mae fel lamp sy'n goleuo rhywle tywyll nes i'r dydd wawrio ac i ‛seren y bore‛ godi i oleuo eich meddyliau chi.
20 Mae'n hynod o bwysig i chi ddeall hyn – mai dim syniadau'r proffwyd ei hun ydy'r negeseuon sydd yn yr ysgrifau sanctaidd.
21 Dim y proffwyd ei hun oedd yn penderfynu ei fod am ddweud rhywbeth. Er mai pobl oedd yn gwneud y siarad, yr Ysbryd Glân oedd yn eu cymell nhw i siarad. Roedden nhw'n dweud beth oedd Duw am iddyn nhw ei ddweud.