7 dangos gofal go iawn am eich gilydd, a chariad cwbl ddiamod.
8 Os ydy'r pethau yma i'w gweld yn eich bywyd chi fwyfwy bob dydd, byddwch chi'n tyfu ac yn aeddfedu fel pobl sy'n nabod ein Harglwydd Iesu Grist.
9 Mae'r rhai sydd heb y pethau yma yn eu bywydau mor fyr eu golwg maen nhw'n ddall! Maen nhw wedi anghofio'r newid ddigwyddodd pan gawson nhw eu glanhau o bechodau'r gorffennol.
10 Felly, frodyr a chwiorydd, gwnewch eich gorau glas i wneud yn hollol siŵr fod Duw wir wedi eich galw chi a'ch dewis chi. Dych chi'n siŵr o gyrraedd y nod os gwnewch chi'r pethau hyn,
11 a chewch groeso mawr i mewn i ble mae ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist yn teyrnasu am byth.
12 Felly dw i'n mynd i ddal ati drwy'r adeg i'ch atgoffa chi o'r pethau yma. Dych chi'n eu gwybod eisoes, ac mae gynnoch chi afael cadarn yn y gwirionedd.
13 Ond dw i'n teimlo cyfrifoldeb i ddal ati i'ch atgoffa chi tra dw i'n dal yn fyw.