1 Ond roedd proffwydi ffals hefyd yn Israel bryd hynny, a bydd athrawon ffals yn codi yn eich plith chithau. Byddan nhw'n sleifio i mewn gyda heresïau sy'n arwain i ddinistr. A hyd yn oed yn mynd mor bell a gwadu awdurdod y Meistr brynodd ryddid iddyn nhw oddi wrth bechod! Byddan nhw'n dwyn dinistr arnyn nhw eu hunain yn fuan iawn.
2 Bydd llawer o bobl yn eu dilyn ac yn rhoi penrhyddid llwyr i'w chwantau rhywiol. Bydd y wir ffordd at Dduw yn cael enw drwg ganddyn nhw.
3 Byddan nhw'n ceisio manteisio arnoch chi a chael eich arian chi drwy adrodd straeon celwyddog. Maen nhw wedi cael eu dedfrydu i gael eu cosbi ers amser maith, a dydy'r ddedfryd ddim wedi ei hanghofio. Mae'r dinistr sy'n dod arnyn nhw ar ei ffordd!
4 Wnaeth Duw ddim hyd yn oed arbed yr angylion oedd yn euog o bechu yn ei erbyn. Anfonodd nhw i uffern, a'u rhwymo yn nhywyllwch dudew y byd tanddaearol i ddisgwyl cael eu cosbi.
5 Wnaeth e ddim arbed yr hen fyd chwaith. Anfonodd lifogydd y dilyw i foddi'r byd oedd yn llawn o bobl oedd yn tynnu'n groes iddo. Dim ond Noa a saith aelod o'i deulu gafodd eu harbed. Noa oedd yr unig un oedd yn galw ar bobl i fyw yn ufudd i Dduw.
6 Wedyn cafodd trefi Sodom a Gomorra eu llosgi'n ulw, a'u gwneud yn esiampl o beth sy'n mynd i ddigwydd i bobl annuwiol.