19 Maen nhw'n addo rhyddid i bobl, ond maen nhw eu hunain yn gaeth i bethau sy'n arwain i ddinistr! – achos “mae rhywun yn gaeth i beth bynnag sydd wedi ei drechu.”
20 Os ydy pobl wedi dianc o'r bywyd aflan sydd yn y byd trwy ddod i nabod ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist, ac wedyn yn cael eu dal a'u rheoli gan yr un pethau eto, “maen nhw mewn gwaeth cyflwr yn y diwedd nag oedden nhw ar y dechrau!”
21 Byddai'n well iddyn nhw beidio gwybod o gwbl am y ffordd iawn, na bod wedi dod o hyd i'r ffordd honno ac wedyn troi eu cefnau ar y ddysgeidiaeth dda gafodd ei basio ymlaen iddyn nhw.
22 Mae'r hen ddihareb yn wir!: “Mae ci'n mynd yn ôl at ei chwŷd.”Ydy, “Mae hwch, ar ôl ymolchi, yn mynd yn ôl i orweddian yn y mwd.”