1 Ffrindiau annwyl, hwn ydy'r ail lythyr i mi ei ysgrifennu atoch chi. Yn hwn fel yn y llall dw i wedi ceisio'ch annog chi i gadw'ch meddyliau yn lân.
2 Dw i eisiau i chi gofio beth ddwedodd y proffwydi sanctaidd yn y gorffennol. A hefyd beth ddysgodd ein Harglwydd a'n Hachubwr drwy ei gynrychiolwyr personol, y rhai rannodd y newyddion da gyda chi gyntaf.
3 Y peth pwysig i'w gofio ydy hyn: Yn y dyddiau olaf bydd rhai yn dod fydd yn ‛chwarae crefydd‛, yn dweud beth bynnag maen nhw eisiau ac yn gwneud sbort o'r gwirionedd.
4 Byddan nhw'n dweud, “Wnaeth e ddim addo dod yn ôl? Ble mae e felly? Er bod y genhedlaeth gyntaf wedi marw, does dim wir wedi newid – mae bywyd yn mynd yn ei flaen yr un fath ers dechrau'r byd!”