9 Eu cosb nhw fydd dioddef dinistr diddiwedd, a chael eu cau allan o bresenoldeb yr Arglwydd a'i ysblander a'i nerth.
10 Ar y diwrnod olaf hwnnw bydd yn cael ei anrhydeddu gan ei bobl, ac yn destun rhyfeddod gan bawb sydd wedi credu. Ac mae hynny'n eich cynnwys chi, gan eich bod chi wedi credu'r cwbl ddwedon ni wrthoch chi amdano fe.
11 Dyna pam dŷn ni'n gweddïo drosoch chi drwy'r amser – gweddïo y bydd Duw'n eich gwneud chi'n deilwng o'r bywyd mae wedi eich galw i'w fyw. Hefyd, y bydd Duw yn rhoi'r nerth i chi wneud yr holl bethau da dych chi eisiau eu gwneud, a bod yn ffyddlon.
12 Bydd hyn yn golygu bod yr Arglwydd Iesu'n cael ei anrhydeddu yn eich bywydau chi, a byddwch chi hefyd yn cael eich anrhydeddu gydag e. Bydd hyn yn digwydd am fod ein Duw a Iesu Grist ein Harglwydd mor hael!