1 Gadewch i ni sôn am y ffaith fod yr Arglwydd Iesu Grist yn dod yn ôl, a sut fyddwn ni'n cael ein casglu ato.
2 Ffrindiau annwyl, plîs peidiwch cynhyrfu na chael eich drysu gan bobl sy'n honni bod y diwrnod hwnnw eisoes wedi dod. Peidiwch cymryd sylw o unrhyw un sy'n mynnu mai dyna mae'r Ysbryd yn ei ddweud. A peidiwch gwrando ar unrhyw stori neu lythyr sy'n dweud mai dyna dŷn ni'n ei gredu.
3 Peidiwch gadael i neb eich twyllo chi. Cyn i'r diwrnod hwnnw ddod bydd y gwrthryfel mawr olaf yn erbyn Duw yn digwydd. Bydd yr un sy'n ymgorfforiad o ddrygioni yn dod i'r golwg, sef yr un sydd wedi ei gondemnio i gael ei ddinistrio gan Dduw.
4 Dyma elyn mawr Duw, yr un sy'n meddwl ei fod yn well na'r bodau ysbrydol i gyd ac unrhyw ‛dduw‛ arall sy'n cael ei addoli. Yn y diwedd bydd yn gosod ei hun yn nheml y Duw byw, ac yn cyhoeddi mai fe ydy Duw.
5 Ydych chi ddim yn cofio mod i wedi dweud hyn i gyd pan oeddwn i gyda chi?
6 Dylech wybod, felly, am y grym sy'n ei ddal yn ôl rhag iddo ddod i'r golwg cyn i'r amser iawn gyrraedd.