13 Ond mae'n rhaid i ni ddiolch i Dduw amdanoch chi bob amser. Ffrindiau annwyl, chi sydd wedi'ch caru gan yr Arglwydd. Dych chi ymhlith y rhai cyntaf ddewisodd Duw i gael eu hachub drwy'r Ysbryd sy'n eich gwneud chi'n lân a thrwy i chi gredu'r gwir.
14 Galwodd Duw chi i rannu yn hyn i gyd wrth i ni gyhoeddi'r newyddion da, a byddwch yn cael rhannu ysblander ein Harglwydd Iesu Grist.
15 Felly, ffrindiau annwyl, arhoswch yn ffyddlon iddo, a daliwch eich gafael yn y cwbl wnaethon ni ei ddysgu i chi, ar lafar ac yn ein llythyr atoch chi.
16 Dw i'n gweddïo y bydd ein Harglwydd Iesu Grist, a Duw ein Tad (sydd wedi'n caru ni, ac wedi bod mor hael yn rhoi hyder ddaw byth i ben a dyfodol sicr i ni),
17 yn eich cysuro ac yn rhoi nerth i chi wneud a dweud beth sy'n dda.