15 Ond peidiwch ei drin fel gelyn – dim ond ei rybuddio fel brawd a'i helpu i newid.
16 Dw i'n gweddïo y bydd yr Arglwydd sy'n rhoi heddwch yn gwneud i chi brofi ei heddwch ym mhob sefyllfa. Bydded yr Arglwydd yn agos at bob un ohonoch chi.
17 Dw i'n ysgrifennu'r cyfarchiad yma yn fy llawysgrifen fy hun – PAUL. Dyma sy'n dangos yn fy holl lythyrau mai fi sy'n ysgrifennu. Dyma fy llawysgrifen i.
18 Dw i'n gweddïo y byddwch chi i gyd yn profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu Grist.