8 Doedden ni ddim yn cymryd mantais o bobl eraill drwy fwyta yn eu cartrefi nhw heb dalu am ein lle. Yn hollol fel arall! Roedden ni'n gweithio ddydd a nos er mwyn gwneud yn siŵr bod dim rhaid i chi dalu i'n cynnal ni.
9 Er bod gynnon ni hawl i ddisgwyl help gynnoch chi, roedden ni am roi esiampl i chi a bod yn batrwm i chi ei ddilyn.
10 “Os ydy rhywun yn gwrthod gweithio, dydy e ddim i gael bwyta” – dyna ddwedon ni pan oedden ni gyda chi.
11 Ond dŷn ni wedi clywed bod rhai ohonoch chi'n diogi. Pobl yn treulio'u hamser yn busnesa yn lle gweithio.
12 Mae gynnon ni awdurdod yr Arglwydd i ddweud wrth bobl felly, a phwyso arnyn nhw i fyw fel y dylen nhw a dechrau ennill eu bara menyn.
13 Ffrindiau annwyl, peidiwch byth â blino gwneud daioni.
14 Cadwch lygad ar unrhyw un sy'n gwrthod gwneud beth dŷn ni'n ei ddweud yn y llythyr yma. Cadwch draw oddi wrtho, er mwyn codi cywilydd arno.