1 Llythyr gan Ioan yr arweinydd, at fy ffrind annwyl Gaius, yr un dw i'n ei garu go iawn.
2 Ffrind annwyl, dw i'n gweddïo fod pethau'n mynd yn dda gyda thi, a'th fod yr un mor iach yn gorfforol ac rwyt ti'n ysbrydol.
3 Dw i wrth fy modd pan mae brodyr neu chwiorydd yn dod yma a dweud wrtho i mor ffyddlon rwyt ti i'r gwirionedd.
4 Does dim byd yn fy ngwneud i'n fwy llawen na chael clywed fod fy mhlant yn byw'n ffyddlon i'r gwir.