2 Ffrind annwyl, dw i'n gweddïo fod pethau'n mynd yn dda gyda thi, a'th fod yr un mor iach yn gorfforol ac rwyt ti'n ysbrydol.
3 Dw i wrth fy modd pan mae brodyr neu chwiorydd yn dod yma a dweud wrtho i mor ffyddlon rwyt ti i'r gwirionedd.
4 Does dim byd yn fy ngwneud i'n fwy llawen na chael clywed fod fy mhlant yn byw'n ffyddlon i'r gwir.
5 Ffrind annwyl, mae dy ffyddlondeb di'n amlwg. Rwyt ti'n helpu'r brodyr sy'n pregethu'r newyddion da, er dy fod ti ddim yn eu nabod nhw.
6 Maen nhw wedi dweud wrth yr eglwys sydd yma mor garedig a hael wyt ti. Dal ati gyda'r gwaith da o'i helpu nhw ar eu ffordd fel hyn. Mae'r hyn rwyt yn ei wneud yn plesio Duw.
7 Maen nhw wedi mynd allan i weithio dros Iesu, a dŷn nhw'n derbyn dim byd gan bobl sydd ddim yn credu.
8 Felly dylen ni sydd yn credu roi croeso iddyn nhw yn ein cartrefi ni. Dŷn ni'n eu helpu nhw i rannu'r gwirionedd wrth wneud hynny.