1 Dw i eisiau i chi wybod mor galed dw i'n gweithio drosoch chi a'r Cristnogion yn Laodicea, a dros lawer o bobl eraill sydd ddim wedi nghyfarfod i.
2 Y bwriad ydy rhoi hyder iddyn nhw a'u helpu i garu ei gilydd yn fwy, a bod yn hollol sicr eu bod wedi deall y cynllun dirgel roedd Duw wedi ei gadw o'r golwg o'r blaen. Y Meseia ei hun ydy hwnnw!
3 Mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth wedi eu storio ynddo fe.
4 Dw i'n dweud hyn wrthoch chi rhag i unrhyw un lwyddo i'ch twyllo chi gyda rhyw ddadleuon dwl sy'n swnio'n glyfar ond sydd ddim yn wir.
5 Er fy mod i ddim gyda chi, dw i'n meddwl amdanoch chi drwy'r amser, ac yn falch o weld mor ddisgybledig ydych chi'n byw ac mor gadarn ydy'ch ffydd chi yn y Meseia.
6 Dych chi wedi derbyn y Meseia Iesu fel eich Arglwydd, felly daliwch ati i fyw yn ufudd iddo –
7 Cadwch eich gwreiddiau'n ddwfn ynddo, eich bywyd wedi ei adeiladu arno, eich hyder ynddo yn gadarn fel y cawsoch eich dysgu, a'ch bywydau yn gorlifo o ddiolch.