19 Dyn nhw ddim wedi dal gafael yn y Meseia. Fe ydy pen y corff. Mae pob rhan o'r corff yn cael ei ddal gyda'i gilydd gan y cymalau a'r gewynnau ac yn tyfu fel mae Duw am iddo dyfu.
20 Buoch farw gyda'r Meseia, a dych chi wedi'ch rhyddhau o afael y dylanwadau drwg sy'n rheoli'r byd yma. Felly pam ydych chi'n dal i ddilyn rhyw fân reolau fel petaech chi'n dal i ddilyn ffordd y byd?
21 – “Peidiwch gwneud hyn! Peidiwch blasu hwn! Peidiwch cyffwrdd rhywbeth arall!”
22 (Mân-reolau wedi eu dyfeisio gan bobl ydy pethau felly! Mae bwyd wedi mynd unwaith mae wedi ei fwyta!)
23 Falle fod rheolau o'r fath yn ymddangos yn beth doeth i rai – defosiwn haearnaidd, disgyblu'r corff a'i drin yn llym – ond dŷn nhw'n dda i ddim i atal chwantau a meddyliau drwg.