3 Mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth wedi eu storio ynddo fe.
4 Dw i'n dweud hyn wrthoch chi rhag i unrhyw un lwyddo i'ch twyllo chi gyda rhyw ddadleuon dwl sy'n swnio'n glyfar ond sydd ddim yn wir.
5 Er fy mod i ddim gyda chi, dw i'n meddwl amdanoch chi drwy'r amser, ac yn falch o weld mor ddisgybledig ydych chi'n byw ac mor gadarn ydy'ch ffydd chi yn y Meseia.
6 Dych chi wedi derbyn y Meseia Iesu fel eich Arglwydd, felly daliwch ati i fyw yn ufudd iddo –
7 Cadwch eich gwreiddiau'n ddwfn ynddo, eich bywyd wedi ei adeiladu arno, eich hyder ynddo yn gadarn fel y cawsoch eich dysgu, a'ch bywydau yn gorlifo o ddiolch.
8 Peidiwch gadael i unrhyw un eich rhwymo chi gyda rhyw syniadau sy'n ddim byd ond nonsens gwag – syniadau sy'n dilyn traddodiadau dynol a'r dylanwadau drwg sy'n rheoli'r byd yma, yn lle dibynnu ar y Meseia.
9 Achos yn y Meseia mae dwyfoldeb yn ei gyflawnder yn byw mewn person dynol.