16 Gadewch i'r neges wych am y Meseia fyw ynoch chi, a'ch gwneud chi'n ddoeth wrth i chi ddysgu a rhybuddio'ch gilydd. Canwch salmau, emynau a chaneuon ysbrydol i fynegi eich diolch i Dduw.
17 Gwnewch bopeth gan gofio eich bod yn cynrychioli yr Arglwydd Iesu Grist – ie, popeth! – popeth dych chi'n ei ddweud a'i wneud. Dyna sut dych chi'n dangos eich diolch i Dduw.
18 Rhaid i chi'r gwragedd fod yn atebol i'ch gwŷr – dyna'r peth iawn i bobl yr Arglwydd ei wneud.
19 Rhaid i chi'r gwŷr garu'ch gwragedd a pheidio byth bod yn gas wrthyn nhw.
20 Rhaid i chi'r plant fod yn ufudd i'ch rhieni bob amser, am fod hynny'n plesio'r Arglwydd.
21 Rhaid i chi'r tadau beidio bod mor galed ar eich plant nes eu bod nhw'n digalonni.
22 Rhaid i chi sy'n gaethweision fod yn ufudd i'ch meistri bob amser. Peidiwch gwneud hynny dim ond pan maen nhw'n eich gwylio chi, er mwyn ceisio ennill eu ffafr nhw. Byddwch yn ddidwyll wrth ufuddhau iddyn nhw, am eich bod chi'n parchu'r Arglwydd.