2 Edrychwch ar bethau o safbwynt y nefoedd, dim o safbwynt daearol.
3 Buoch farw, ac mae'r bywyd go iawn sydd gynnoch chi nawr wedi ei guddio'n saff gyda'r Meseia yn Nuw.
4 Y Meseia ydy'ch bywyd chi. Pan fydd e'n dod i'r golwg, byddwch chi hefyd yn cael rhannu ei ysblander e.
5 Felly lladdwch y pethau drwg, daearol sydd ynoch chi: anfoesoldeb rhywiol, budreddi, pob chwant, a phob tuedd i wneud drwg a bod yn hunanol – addoli eilun-dduwiau ydy peth felly!
6 Pethau felly sy'n gwneud Duw yn ddig, a bydd yn dod i gosbi pawb sy'n anufudd iddo.
7 Dyna sut roeddech chi'n ymddwyn o'r blaen.
8 Ond bellach rhaid i chi gael gwared â nhw: gwylltio a cholli tymer, bod yn faleisus, hel straeon cas a dweud pethau anweddus.