22 Rhaid i chi sy'n gaethweision fod yn ufudd i'ch meistri bob amser. Peidiwch gwneud hynny dim ond pan maen nhw'n eich gwylio chi, er mwyn ceisio ennill eu ffafr nhw. Byddwch yn ddidwyll wrth ufuddhau iddyn nhw, am eich bod chi'n parchu'r Arglwydd.
23 Gwnewch eich gorau glas bob amser, fel tasech chi'n gweithio i'r Arglwydd ei hun, a dim i feistri dynol.
24 Byddwch chi'n derbyn eich gwobr gan yr Arglwydd. Y Meseia ydy'r meistr dych chi'n ei wasanaethu go iawn.
25 Ond bydd y rhai sy'n gwneud beth sydd o'i le yn cael beth maen nhw'n ei haeddu – does gan Dduw ddim ffefrynnau.