7 Dyna sut roeddech chi'n ymddwyn o'r blaen.
8 Ond bellach rhaid i chi gael gwared â nhw: gwylltio a cholli tymer, bod yn faleisus, hel straeon cas a dweud pethau anweddus.
9 Rhaid i chi stopio dweud celwydd wrth eich gilydd, am eich bod wedi rhoi heibio'r hen fywyd a'i ffyrdd
10 ac wedi gwisgo'r bywyd newydd. Dyma'r ddynoliaeth newydd sy'n cael ei newid i fod yr un fath â'r Crëwr ei hun, ac sy'n dod i nabod Duw yn llawn.
11 Lle mae hyn yn digwydd does dim gwahaniaeth rhwng Iddew a rhywun o genedl arall, neu rhwng cael eich enwaedu neu ddim; does neb yn cael ei ddiystyru am ei fod yn ‛farbariad di-addysg‛ neu'n ‛anwariad gwyllt‛; does dim gwahaniaeth rhwng y caethwas a'r dinesydd rhydd. Yr unig beth sy'n cyfri ydy'r Meseia, ac mae e ym mhob un ohonon ni sy'n credu.
12 Mae Duw wedi eich dewis chi iddo'i hun ac wedi'ch caru chi'n fawr, felly dangoswch chithau dosturi at bobl eraill, a bod yn garedig, yn ostyngedig, yn addfwyn ac yn amyneddgar.
13 Byddwch yn oddefgar, a maddau i eraill pan dych chi'n meddwl eu bod nhw ar fai. Maddeuwch chi i bobl eraill yn union fel mae'r Arglwydd wedi maddau i chi.