9 Rhaid i chi stopio dweud celwydd wrth eich gilydd, am eich bod wedi rhoi heibio'r hen fywyd a'i ffyrdd
10 ac wedi gwisgo'r bywyd newydd. Dyma'r ddynoliaeth newydd sy'n cael ei newid i fod yr un fath â'r Crëwr ei hun, ac sy'n dod i nabod Duw yn llawn.
11 Lle mae hyn yn digwydd does dim gwahaniaeth rhwng Iddew a rhywun o genedl arall, neu rhwng cael eich enwaedu neu ddim; does neb yn cael ei ddiystyru am ei fod yn ‛farbariad di-addysg‛ neu'n ‛anwariad gwyllt‛; does dim gwahaniaeth rhwng y caethwas a'r dinesydd rhydd. Yr unig beth sy'n cyfri ydy'r Meseia, ac mae e ym mhob un ohonon ni sy'n credu.
12 Mae Duw wedi eich dewis chi iddo'i hun ac wedi'ch caru chi'n fawr, felly dangoswch chithau dosturi at bobl eraill, a bod yn garedig, yn ostyngedig, yn addfwyn ac yn amyneddgar.
13 Byddwch yn oddefgar, a maddau i eraill pan dych chi'n meddwl eu bod nhw ar fai. Maddeuwch chi i bobl eraill yn union fel mae'r Arglwydd wedi maddau i chi.
14 A gwisgwch gariad dros y cwbl i gyd – mae cariad yn clymu'r cwbl yn berffaith gyda'i gilydd.
15 Gadewch i'r heddwch mae'r Meseia'n ei greu rhyngoch chi gadw trefn arnoch chi. Mae Duw wedi'ch galw chi at eich gilydd i fyw fel un corff ac i brofi realiti'r heddwch hwnnw. A byddwch yn ddiolchgar.