13 Ac wedyn chi sydd ddim yn Iddewon hefyd – cawsoch chithau eich derbyn i berthynas â'r Meseia ar ôl i chi glywed y gwir, sef y newyddion da sy'n eich achub chi. Wrth ddod i gredu ynddo cawsoch eich marcio gyda sêl sy'n dangos eich bod yn perthyn iddo, a'r sêl hwnnw ydy'r Ysbryd Glân oedd wedi ei addo i chi.
14 Yr Ysbryd ydy'r blaendal sy'n gwarantu'r ffaith bod lle wedi ei gadw ar ein cyfer ni. Yn y diwedd byddwn yn cael ein gollwng yn rhydd i'w feddiannu'n llawn. Rheswm arall i'w foli am ei fod mor wych!
15 Ers i mi glywed gyntaf am eich ffyddlondeb i'r Arglwydd Iesu a'ch cariad at Gristnogion eraill,
16 dw i ddim wedi stopio diolch i Dduw amdanoch chi. Dw i'n cofio amdanoch chi bob tro dw i'n gweddïo.
17 Dw i'n gofyn i Dduw, Tad bendigedig ein Harglwydd Iesu Grist, roi'r Ysbryd i chi i'ch goleuo a'ch gwneud yn ddoeth, er mwyn i chi ddod i'w nabod yn well.
18 Dw i'n gweddïo y daw'r cwbl yn olau i chi. Dw i eisiau i chi ddod i weld yn glir a deall yn union beth ydy'r gobaith sydd ganddo ar eich cyfer, a gweld mor wych ydy'r lle bendigedig sydd ganddo i'w bobl.
19 Dw i hefyd am i chi sylweddoli mor anhygoel ydy'r nerth sydd ar gael i ni sy'n credu. Dyma'r pŵer aruthrol