20 wnaeth godi'r Meseia yn ôl yn fyw a'i osod i eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw yn y byd nefol.
21 Mae'n llawer uwch nag unrhyw un arall sy'n teyrnasu neu'n llywodraethu, ac unrhyw rym neu awdurdod arall sy'n bod. Does gan neb na dim deitl tebyg iddo – yn y byd yma na'r byd sydd i ddod!
22 Mae Duw wedi rhoi popeth dan ei awdurdod. Mae wedi ei wneud e yn ben ar y cwbl – er lles yr eglwys.
23 Yr eglwys ydy ei gorff e – mae'n llawn ohono fe sy'n llenwi'r bydysawd cyfan â'i bresenoldeb.