6 Clod i Dduw am yr haelioni anhygoel mae wedi ei ddangos tuag aton ni! – ei anrheg i ni yn y Mab mae'n ei garu.
7 Cawson ni'n gollwng yn rhydd am fod marwolaeth ei fab ar y groes wedi gwneud maddeuant ein pechodau yn bosib. Dyna lle dŷn ni'n gweld mor anhygoel o hael mae Duw wedi bod tuag aton ni!
8 Mae wedi tywallt ei haelioni arnon ni, ac wedi rhoi doethineb a synnwyr i ni.
9 Mae wedi rhannu ei gynllun dirgel gyda ni. Roedd wrth ei fodd yn gwneud hyn! Mae wedi gwneud y cwbl drwy'r Meseia. Trefnu
10 i ddod â phopeth sy'n bodoli yn y nefoedd ac ar y ddaear at ei gilydd dan un pen, sef y Meseia. Bydd yn gwneud hyn pan fydd yr amser iawn wedi dod.
11 Mae ganddo le ar ein cyfer ni am fod gynnon ni berthynas â'r Meseia. Dewisodd ni ar y dechrau cyntaf, a threfnu'r cwbl ymlaen llaw. Mae'n rhaid i bopeth ddigwydd yn union fel mae e wedi cynllunio.
12 Mae am i ni'r Iddewon, y rhai cyntaf i roi'n gobaith yn y Meseia, ei foli am ei fod mor wych.