13 Ond bellach, dych chi wedi cael eich uno gyda'r Meseia Iesu! Dych chi, oedd mor bell i ffwrdd ar un adeg, wedi cael dod i berthyn, a hynny am fod y Meseia wedi gwaedu a marw ar y groes.
14 Ac ydy, mae Iesu'n gwneud y berthynas rhyngon ni a'n gilydd yn iawn hefyd – ni'r Iddewon a chi sydd o genhedloedd eraill. Mae wedi'n huno ni gyda'n gilydd. Mae'r wal o gasineb oedd yn ein gwahanu ni wedi cael ei chwalu ganddo!
15 Wrth farw ar y groes mae wedi delio gyda'r ffens oedd yn eich cau chi allan, sef holl ofynion y Gyfraith Iddewig a'i rheolau. Gwnaeth hyn er mwyn dod â ni i berthynas iawn â'n gilydd, a chreu un ddynoliaeth newydd allan o'r ddau grŵp o bobl.
16 Mae'r ddau yn dod yn un corff sy'n cael ei gymodi gyda Duw drwy beth wnaeth e ar y groes. Dyna sut daeth â'r casineb rhyngon ni i ben.
17 Daeth i gyhoeddi'r newyddion da am heddwch i chi o genhedloedd eraill oedd yn ‛bell oddi wrtho‛, a heddwch i ni'r Iddewon oedd yn ‛agos‛.
18 Bellach, o achos beth wnaeth Iesu y Meseia mae'r ddau grŵp gyda'i gilydd yn gallu closio at Dduw y Tad drwy'r un Ysbryd Glân.
19 Felly dych chi o'r cenhedloedd eraill ddim yn bobl estron mwyach, nac yn bobl sydd ‛y tu allan‛. Dych chi bellach yn perthyn i genedl Dduw! Dych chi'n aelodau o'i deulu!