2 Roeddech chi'n byw yr un fath â phawb arall, yn dilyn ffordd y byd. Roeddech chi'n ufuddhau i Satan, tywysog teyrnas yr awyr – sef y pŵer ysbrydol sydd ar waith ym mywydau pawb sy'n anufudd i Dduw.
3 Roedden ni i gyd felly ar un adeg. Roedden ni'n byw i blesio'r hunan pechadurus a gwneud beth bynnag oedd ein ffansi. Dyna oedd ein natur ni, a roedden ni fel pawb arall yn haeddu cael ein cosbi gan Dduw.
4 Ond mae Duw mor anhygoel o drugarog! Mae wedi'n caru ni gymaint!
5 Mae wedi rhoi bywyd i ni gyda'r Meseia – ie, ni oedd yn farw'n ysbrydol am ein bod wedi gwrthryfela yn ei erbyn. Y ffaith fod Duw mor hael ydy'r unig reswm pam dŷn ni wedi'n hachub!
6 Cododd Duw ni yn ôl yn fyw gyda'r Meseia Iesu a'n gosod i deyrnasu gydag e yn y byd nefol – dŷn ni wedi'n huno gydag e!
7 Felly bydd haelioni Duw i'w weld yn glir yn y byd sydd i ddod. Does dim byd tebyg yn unman i'r caredigrwydd ddangosodd aton ni drwy beth wnaeth y Meseia Iesu.
8 Haelioni Duw ydy'r unig beth sy'n eich achub chi wrth i chi gredu. Dych chi wedi gwneud dim i haeddu'r peth. Anrheg Duw ydy e!