5 Mae wedi rhoi bywyd i ni gyda'r Meseia – ie, ni oedd yn farw'n ysbrydol am ein bod wedi gwrthryfela yn ei erbyn. Y ffaith fod Duw mor hael ydy'r unig reswm pam dŷn ni wedi'n hachub!
6 Cododd Duw ni yn ôl yn fyw gyda'r Meseia Iesu a'n gosod i deyrnasu gydag e yn y byd nefol – dŷn ni wedi'n huno gydag e!
7 Felly bydd haelioni Duw i'w weld yn glir yn y byd sydd i ddod. Does dim byd tebyg yn unman i'r caredigrwydd ddangosodd aton ni drwy beth wnaeth y Meseia Iesu.
8 Haelioni Duw ydy'r unig beth sy'n eich achub chi wrth i chi gredu. Dych chi wedi gwneud dim i haeddu'r peth. Anrheg Duw ydy e!
9 Dych chi'n gallu gwneud dim i'w ennill, felly does dim lle i unrhyw un frolio.
10 Duw sydd wedi'n gwneud ni beth ydyn ni. Mae wedi ein creu mewn perthynas â'r Meseia Iesu, i ni wneud yr holl bethau da mae e wedi eu trefnu ymlaen llaw i ni eu gwneud.
11 Mae'n dda i chi gofio eich bod chi sydd o genhedloedd eraill yn arfer bod ‛ar y tu allan‛. ‛Y dienwaediad‛ oeddech chi'n cael eich galw gan ‛bobl yr enwaediad‛ – sef yr Iddewon sy'n cadw'r ddefod o dorri'r blaengroen ar fechgyn i ddangos eu bod nhw'n perthyn i Dduw.