1 Dyma pam dw i, Paul, yn garcharor – am fy mod i'n pregethu i chi o'r cenhedloedd eraill am y Meseia Iesu.
2 Dw i'n cymryd eich bod wedi clywed am y gwaith penodol roddodd Duw i mi i'ch helpu chi.
3 Dangosodd i mi rywbeth oedd wedi ei guddio o'r blaen. Dw i wedi ceisio'i esbonio'n fyr yma.
4 Wrth i chi ei ddarllen, dowch i weld sut dw i'n deall beth oedd yn ddirgelwch am y Meseia.
5 Doedd pobl yn y gorffennol ddim wedi cael gwybod y cwbl y mae'r Ysbryd Glân wedi ei ddangos i ni ei gynrychiolwyr a'i broffwydi.
6 Dyma'r dirgelwch i chi: fod pobl o genhedloedd eraill yn cael rhannu'r cwbl mae Duw wedi ei baratoi i'r Iddewon. Mae'r Meseia Iesu wedi eu gwneud nhw'n un corff gyda'r Iddewon, a byddan nhw'n cael rhannu'r bendithion gafodd eu haddo hefyd!