11 Dyma oedd cynllun Duw ers cyn i amser ddechrau, ac mae'r cwbl yn cael ei gyflawni yn y Meseia Iesu, ein Harglwydd ni.
12 Dŷn ni'n gwbl rydd a hyderus i glosio at Dduw am ein bod ni'n credu ynddo ac wedi cael ein huno gydag e.
13 Felly plîs peidiwch digalonni o achos beth dw i'n gorfod ei ddioddef drosoch chi. Dylech weld ei fod yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo!
14 Wrth feddwl am hyn i gyd dw i'n syrthio ar fy ngliniau i weddïo ar Dduw y Tad.
15 Fe sydd wedi rhoi eu hunaniaeth arbennig i bob grŵp o angylion yn y nefoedd ac i bobloedd ar y ddaear.
16 Dw i'n gweddïo y bydd yn defnyddio'r holl adnoddau bendigedig sydd ganddo i'ch gwneud chi'n gryf, ac y bydd yn rhoi nerth mewnol i chi drwy roi ei Ysbryd Glân i chi.
17 Dw i'n gweddïo hefyd y bydd y Meseia ei hun yn gwneud ei gartref yn eich calonnau chi wrth i chi ymddiried ynddo fe. Dw i am i'w gariad e fod wrth wraidd popeth dych chi'n ei wneud – dyna'r sylfaen i adeiladu arni!