16 Dw i'n gweddïo y bydd yn defnyddio'r holl adnoddau bendigedig sydd ganddo i'ch gwneud chi'n gryf, ac y bydd yn rhoi nerth mewnol i chi drwy roi ei Ysbryd Glân i chi.
17 Dw i'n gweddïo hefyd y bydd y Meseia ei hun yn gwneud ei gartref yn eich calonnau chi wrth i chi ymddiried ynddo fe. Dw i am i'w gariad e fod wrth wraidd popeth dych chi'n ei wneud – dyna'r sylfaen i adeiladu arni!
18 Dw i am i chi, a phobl Dduw i gyd, ddeall mor aruthrol fawr ydy cariad y Meseia – mae'n lletach, yn hirach, yn uwch ac yn ddyfnach na dim byd arall!
19 Dw i am i chi brofi y cariad hwnnw sy'n llawer rhy fawr i'w brofi yn llawn, er mwyn i chi gael eich llenwi â'r cwbl sydd gan Dduw ar eich cyfer.
20 Clod iddo! Mae'n gwneud llawer iawn mwy na dim y bydden ni'n mentro gofyn amdano na hyd yn oed yn gallu ei ddychmygu!
21 Dylen ni sydd yn yr eglwys ac wedi'n huno gyda'r Meseia Iesu roi clod iddo am byth bythoedd! Amen.