7 Dyma'r newyddion da dw i'n ei rannu ers i mi fy hun brofi haelioni anhygoel Duw. Fe ydy'r un sy'n rhoi'r nerth i mi wneud y cwbl.
8 Dw i'n neb. Dw i wedi syrthio'n is nag unrhyw un o bobl Dduw. Ac eto fi sydd wedi cael y fraint o bregethu i chi o'r cenhedloedd eraill am y trysor diderfyn sydd gan y Meseia ar ein cyfer ni.
9 Ces fy newis i esbonio cynllun Duw i chi, sef yr hyn roedd Crëwr pob peth wedi ei gadw o'r golwg cyn hyn.
10 Pwrpas Duw ydy i'r rhai sy'n llywodraethu ac i'r awdurdodau yn y byd ysbrydol ddod i weld mor rhyfeddol o gyfoethog ydy ei ddoethineb e. A'r eglwys sy'n dangos hynny iddyn nhw.
11 Dyma oedd cynllun Duw ers cyn i amser ddechrau, ac mae'r cwbl yn cael ei gyflawni yn y Meseia Iesu, ein Harglwydd ni.
12 Dŷn ni'n gwbl rydd a hyderus i glosio at Dduw am ein bod ni'n credu ynddo ac wedi cael ein huno gydag e.
13 Felly plîs peidiwch digalonni o achos beth dw i'n gorfod ei ddioddef drosoch chi. Dylech weld ei fod yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo!