19 Does dim byd yn codi cywilydd arnyn nhw. Dyn nhw'n gwneud dim byd ond byw'n anfoesol a gadael i'w chwantau mochaidd gael penrhyddid llwyr. Ac maen nhw eisiau mwy a mwy drwy'r adeg.
20 Dim felly dych chi wedi dysgu byw wrth edrych ar y Meseia –
21 os mai fe ydy'r un dych chi wedi eich dysgu i'w ddilyn. Yn Iesu mae dod o hyd i'r gwir.
22 Felly rhaid i chi gael gwared â'r hen ffordd o wneud pethau – y bywyd sydd wedi ei lygru gan chwantau twyllodrus.
23 Rhaid i chi feithrin ffordd newydd o feddwl.
24 Mae fel gwisgo natur o fath newydd – natur sydd wedi ei fodelu ar gymeriad Duw ei hun, yn gyfiawn a glân.
25 Felly dim mwy o gelwydd! “Dwedwch y gwir wrth eich gilydd”, am ein bod ni'n perthyn i'r un corff.