2 Byddwch yn ostyngedig ac addfwyn bob amser; byddwch yn amyneddgar, a goddef beiau eich gilydd mewn cariad.
3 Gwnewch eich gorau glas i ddangos bod yr Ysbryd Glân wedi eich gwneud chi'n un, a'i fod yn eich clymu chi gyda'ch gilydd mewn heddwch.
4 Gan mai'r un Ysbryd Glân sydd gynnon ni, dŷn ni'n un corff – a dych chi wedi'ch galw gan Dduw i rannu'r un gobaith.
5 Does ond un Arglwydd, un ffydd, un bedydd,
6 a dim ond un Duw a Thad i bawb. Y Duw sy'n teyrnasu dros bopeth, ac sy'n gweithio drwy bob un ac ym mhob un!
7 Ond mae'r Meseia wedi rhannu ei roddion i bob un ohonon ni – a fe sydd wedi dewis beth i'w roi i bawb.
8 Dyna pam mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Pan aeth i fyny i'r uchelder arweiniodd gaethion ar ei ôl a rhannu rhoddion i bobl.”