21 os mai fe ydy'r un dych chi wedi eich dysgu i'w ddilyn. Yn Iesu mae dod o hyd i'r gwir.
22 Felly rhaid i chi gael gwared â'r hen ffordd o wneud pethau – y bywyd sydd wedi ei lygru gan chwantau twyllodrus.
23 Rhaid i chi feithrin ffordd newydd o feddwl.
24 Mae fel gwisgo natur o fath newydd – natur sydd wedi ei fodelu ar gymeriad Duw ei hun, yn gyfiawn a glân.
25 Felly dim mwy o gelwydd! “Dwedwch y gwir wrth eich gilydd”, am ein bod ni'n perthyn i'r un corff.
26 “Peidiwch pechu pan dych chi wedi digio” – gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn dal yn ddig ar ddiwedd y dydd.
27 Peidiwch rhoi cyfle i'r diafol a'i driciau!