5 Does ond un Arglwydd, un ffydd, un bedydd,
6 a dim ond un Duw a Thad i bawb. Y Duw sy'n teyrnasu dros bopeth, ac sy'n gweithio drwy bob un ac ym mhob un!
7 Ond mae'r Meseia wedi rhannu ei roddion i bob un ohonon ni – a fe sydd wedi dewis beth i'w roi i bawb.
8 Dyna pam mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Pan aeth i fyny i'r uchelder arweiniodd gaethion ar ei ôl a rhannu rhoddion i bobl.”
9 (Beth mae “aeth i fyny” yn ei olygu oni bai ei fod hefyd wedi dod i lawr i'r byd daearol?
10 A'r un ddaeth i lawr ydy'r union un aeth i fyny i'r man uchaf yn y nefoedd, er mwyn i'w lywodraeth lenwi'r bydysawd cyfan).
11 A dyma'i roddion: mae wedi penodi rhai i fod yn gynrychiolwyr personol iddo, eraill i fod yn broffwydi, eraill yn rhai sy'n rhannu'r newyddion da, ac eraill yn fugeiliaid ac athrawon.