28 Dyna sut ddylai gwŷr garu eu gwragedd – fel eu cyrff eu hunain! Mae'r gŵr sy'n caru ei wraig yn ei garu ei hun!
29 Dydy pobl ddim yn casáu eu cyrff eu hunain – maen nhw'n eu bwydo nhw a gofalu amdanyn nhw. A dyna sut mae'r Meseia yn gofalu am yr eglwys,
30 gan ein bod ni'n wahanol rannau o'i gorff e.
31 Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud y peth fel hyn: “bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn cael ei uno â'i wraig, a bydd y ddau yn dod yn un.”
32 Mae rhyw wirionedd mawr yn guddiedig yma – sôn ydw i am berthynas y Meseia a'i eglwys.
33 Beth bynnag, dyna ddylai pob un ohonoch chi ei wneud – caru ei wraig fel mae'n ei garu ei hun, fel bod y wraig wedyn yn parchu ei gŵr.