3 Ddylai bod dim awgrym o anfoesoldeb rhywiol yn agos atoch chi, nac unrhyw fochyndra, na chwant hunanol chwaith! Dydy pethau felly ddim yn iawn i bobl sydd wedi cysegru eu bywydau i Dduw.
4 Dim iaith anweddus, siarad dwl a jôcs budron chwaith – does dim lle i bethau felly. Yn lle hynny dylech chi ddiolch i Dduw.
5 Dych chi'n gallu bod yn hollol siŵr o hyn: dim Duw a'i Feseia sy'n teyrnasu ym mywydau'r bobl hynny sy'n byw'n anfoesol, neu'n aflan, neu'n bod yn hunanol – addoli eilun-dduwiau ydy peth felly!
6 Peidiwch gadael i neb eich twyllo gyda'u geiriau gwag. Mae'r bobl yma yn gwneud Duw yn ddig, a bydd yn dod i gosbi pawb sy'n anufudd iddo.
7 Felly peidiwch ymuno gyda nhw.
8 Ar un adeg roeddech chi yn y tywyllwch, ond bellach mae golau'r Arglwydd yn disgleirio ynoch chi. Dylech fyw mewn ffordd sy'n dangos eich bod chi yn y golau.
9 Pethau da a chyfiawn a gwir ydy'r ffrwyth sy'n tyfu yn y golau.