18 A beth bynnag ddaw, gweddïwch bob amser fel mae'r Ysbryd yn arwain. Cadwch yn effro, a dal ati i weddïo'n daer dros bobl Dduw i gyd.
19 A gweddïwch drosto i hefyd. Gweddïwch y bydd Duw'n rhoi'r geiriau iawn i mi bob tro bydda i'n agor fy ngheg, er mwyn i mi rannu dirgelwch y newyddion da yn gwbl ddi-ofn.
20 Llysgennad y Meseia Iesu ydw i, mewn cadwyni am gyhoeddi ei neges. Gweddïwch y bydda i'n dal ati i wneud hynny'n gwbl ddi-ofn, fel y dylwn i wneud!
21 Bydd Tychicus, sy'n frawd annwyl iawn ac yn weithiwr ffyddlon i'r Arglwydd, yn dweud wrthoch chi sut mae pethau'n mynd a beth dw i'n ei wneud.
22 Dyna pam dw i'n ei anfon e atoch chi yn un swydd, i chi gael gwybod sut ydyn ni, ac er mwyn iddo godi'ch calon chi.
23 Frodyr a chwiorydd, dw i am i Dduw y Tad a'r Arglwydd Iesu Grist eich galluogi chi i fyw mewn heddwch, caru'ch gilydd ac ymddiried yn llwyr ynddo fe.
24 Dw i'n gweddïo y bydd pawb sy'n caru ein Harglwydd Iesu Grist o waelod calon yn profi o'i haelioni rhyfeddol.