2 Y gorchymyn cyntaf sydd ag addewid ynghlwm wrtho ydy: Gofala am dy dad a dy fam,
3 a bydd pethau'n mynd yn dda i ti, a chei fyw'n hir.
4 Chi'r tadau, peidiwch trin eich plant mewn ffordd sy'n eu gwylltio nhw. Dylech eu magu a'u dysgu nhw i wneud beth mae'r Arglwydd yn ei ddweud.
5 Chi sy'n gaethweision, byddwch yn gwbl ufudd i'ch meistri daearol, a dangos parch go iawn atyn nhw. Gweithiwch yn galed, yn union fel petaech chi'n gweithio i'r Meseia ei hun –
6 nid dim ond er mwyn ennill ffafr y meistr pan mae'n eich gwylio chi. Fel caethweision y Meseia, ewch ati o ddifri i wneud beth mae Duw am i chi ei wneud.
7 Gweithiwch eich gorau glas, fel petaech yn gweithio i'r Arglwydd ei hun, dim i bobl.
8 Cofiwch mai'r Arglwydd fydd yn gwobrwyo pawb am y daioni mae'n ei wneud – caethwas neu beidio.