6 nid dim ond er mwyn ennill ffafr y meistr pan mae'n eich gwylio chi. Fel caethweision y Meseia, ewch ati o ddifri i wneud beth mae Duw am i chi ei wneud.
7 Gweithiwch eich gorau glas, fel petaech yn gweithio i'r Arglwydd ei hun, dim i bobl.
8 Cofiwch mai'r Arglwydd fydd yn gwobrwyo pawb am y daioni mae'n ei wneud – caethwas neu beidio.
9 A chi'r meistri yr un fath, dylech drin eich caethweision yn deg. Peidiwch eu bwlio nhw. Cofiwch fod Duw, sydd yn y nefoedd, yn feistr ar y naill a'r llall ohonoch chi. Does ganddo fe ddim ffefrynnau!
10 Dyma'r peth olaf sydd i'w ddweud: Byddwch yn gryf, a chael eich nerth gan yr Arglwydd a'r pŵer aruthrol sydd ganddo fe.
11 Mae Duw wedi paratoi arfwisg i chi ei gwisgo yn y frwydr. Byddwch chi'n gallu gwneud safiad yn erbyn triciau slei y diafol.
12 Dŷn ni ddim yn ymladd yn erbyn pobl. Mae'n brwydr ni yn erbyn y bodau ysbrydol sy'n llywodraethu, sef yr awdurdodau a'r pwerau tywyll sy'n rheoli'r byd yma; y fyddin ysbrydol ddrwg yn y byd nefol.