1 Llythyr gan Paul, cynrychiolydd personol i'r Meseia Iesu.Dim pobl ddewisodd fi i fod yn gynrychiolydd i'r Meseia, a dim rhyw ddyn cyffredin anfonodd fi, ond y Meseia Iesu ei hun, a Duw y Tad, yr un gododd e yn ôl yn fyw.
2 Mae'r ffrindiau sydd gyda mi yma yn anfon eu cyfarchion. Atoch chi, yr eglwysi yn nhalaith Galatia:
3 Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.
4 Gwnaeth Iesu yn union beth oedd ein Duw a'n Tad eisiau! Rhoddodd ei fywyd yn aberth dros ein pechodau ni, er mwyn ein rhyddhau ni o afael yr oes bresennol a'i drygioni.