1 Llythyr gan Paul, cynrychiolydd personol i'r Meseia Iesu.Dim pobl ddewisodd fi i fod yn gynrychiolydd i'r Meseia, a dim rhyw ddyn cyffredin anfonodd fi, ond y Meseia Iesu ei hun, a Duw y Tad, yr un gododd e yn ôl yn fyw.
2 Mae'r ffrindiau sydd gyda mi yma yn anfon eu cyfarchion. Atoch chi, yr eglwysi yn nhalaith Galatia:
3 Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.
4 Gwnaeth Iesu yn union beth oedd ein Duw a'n Tad eisiau! Rhoddodd ei fywyd yn aberth dros ein pechodau ni, er mwyn ein rhyddhau ni o afael yr oes bresennol a'i drygioni.
5 Dyma'r Duw sy'n haeddu ei foli am byth bythoedd! Amen!
6 Dw i'n ei chael hi'n anodd credu eich bod chi'n troi cefn ar Dduw mor fuan! Troi cefn ar yr un sydd wedi'ch galw chi ato'i hun trwy haelioni'r Meseia – a derbyn rhyw syniadau eraill sy'n honni bod yn ‛newyddion da‛.