11 Frodyr a chwiorydd, dw i eisiau i chi ddeall yn iawn mai dim rhywbeth wnaeth pobl ei ddychmygu ydy'r newyddion da yma dw i'n ei gyhoeddi.
12 Dim clywed y neges gan rywun arall wnes i, a wnaeth neb arall ei dysgu hi i mi; na, y Meseia Iesu ei hun ddangosodd i mi beth oedd y gwir.
13 Mae'n siŵr eich bod chi wedi clywed beth roeddwn i'n ei wneud pan o'n i'n dilyn y grefydd Iddewig: roeddwn i'n erlid Cristnogion fel ffanatig, ac yn ceisio dinistrio eglwys Dduw.
14 Roeddwn i'n cymryd crefydd gymaint o ddifri, ac ymhell ar y blaen i eraill oedd yr un oed â mi. Roeddwn i ar dân dros ein traddodiadau Iddewig ni.
15 Ond roedd Duw wedi fy newis i cyn i mi gael fy ngeni, a buodd e'n anhygoel o garedig tuag ata i trwy fy ngalw i'w ddilyn. Gwelodd yn dda
16 i ddangos ei Fab i mi, er mwyn i mi fynd allan i gyhoeddi'r newyddion da amdano i bobl o genhedloedd eraill! Wnes i ddim mynd i ofyn cyngor unrhyw un,
17 na mynd i Jerwsalem i weld y rhai oedd yn gynrychiolwyr i Iesu o mlaen i chwaith. Na, es i'n syth i Arabia, ac wedyn mynd yn ôl i Damascus.