2 Mae'r ffrindiau sydd gyda mi yma yn anfon eu cyfarchion. Atoch chi, yr eglwysi yn nhalaith Galatia:
3 Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.
4 Gwnaeth Iesu yn union beth oedd ein Duw a'n Tad eisiau! Rhoddodd ei fywyd yn aberth dros ein pechodau ni, er mwyn ein rhyddhau ni o afael yr oes bresennol a'i drygioni.
5 Dyma'r Duw sy'n haeddu ei foli am byth bythoedd! Amen!
6 Dw i'n ei chael hi'n anodd credu eich bod chi'n troi cefn ar Dduw mor fuan! Troi cefn ar yr un sydd wedi'ch galw chi ato'i hun trwy haelioni'r Meseia – a derbyn rhyw syniadau eraill sy'n honni bod yn ‛newyddion da‛.
7 Ond does yna ddim newyddion da arall yn bod! Rhyw bobl sy'n eich drysu chi drwy ystumio'r newyddion da am y Meseia a'i wneud yn rhywbeth arall.
8 Melltith Duw ar bwy bynnag sy'n cyhoeddi neges wahanol i'r un wnaethon ni ei rhannu gyda chi! Petaen ni'n hunain yn gwneud y fath beth, neu hyd yn oed angel o'r nefoedd, melltith Duw arno!