8 Melltith Duw ar bwy bynnag sy'n cyhoeddi neges wahanol i'r un wnaethon ni ei rhannu gyda chi! Petaen ni'n hunain yn gwneud y fath beth, neu hyd yn oed angel o'r nefoedd, melltith Duw arno!
9 Dw i wedi dweud o'r blaen a dw i'n dweud yr un peth eto: Os oes rhywun yn cyhoeddi neges wahanol i'r un wnaethoch chi ei chredu, melltith Duw arno!
10 Felly, ydw i'n swnio nawr fel rhywun sydd eisiau cael ei ganmol gan bobl? Onid ceisio plesio Duw ydw i? Ydw i eisiau bod yn boblogaidd? Taswn i'n dal yn ceisio plesio pobl, fyddwn i ddim yn was i'r Meseia.
11 Frodyr a chwiorydd, dw i eisiau i chi ddeall yn iawn mai dim rhywbeth wnaeth pobl ei ddychmygu ydy'r newyddion da yma dw i'n ei gyhoeddi.
12 Dim clywed y neges gan rywun arall wnes i, a wnaeth neb arall ei dysgu hi i mi; na, y Meseia Iesu ei hun ddangosodd i mi beth oedd y gwir.
13 Mae'n siŵr eich bod chi wedi clywed beth roeddwn i'n ei wneud pan o'n i'n dilyn y grefydd Iddewig: roeddwn i'n erlid Cristnogion fel ffanatig, ac yn ceisio dinistrio eglwys Dduw.
14 Roeddwn i'n cymryd crefydd gymaint o ddifri, ac ymhell ar y blaen i eraill oedd yr un oed â mi. Roeddwn i ar dân dros ein traddodiadau Iddewig ni.